Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Chwefror 2018
Amser:
13.45 -
17.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4506
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Mike Halstead, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Sophie Howe, Future Generations Commissioner Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Liz Lucas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Shan Morgan, Llywodraeth Cymru Eurgain Powell, Office of the Future Generations Commissioner Steve Robinson, Cyngor Caerdydd Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Arwel Staples, Denbighshire County Council |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Anthony Barrett Matthew Mortlock Mike Usher Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru, ynghylch cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.
3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ysgrifennu at y Cadeirydd i egluro nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.
4.1 Nodwyd yr ymatebion.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Liz Lucas, Pennaeth Caffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Steve Robinson, Pennaeth Caffael Cyngor Caerdydd, fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus.
5.2 Cytunodd Liz Lucas i anfon gwybodaeth am y mathau o nwyddau a gwasanaethau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'u prynu drwy fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron ac am werth y nwyddau a'r gwasanaethau hyn.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mike Halstead, Pennaeth Archwilio a Chaffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac Arwel Staples, Rheolwr Caffael Strategol Cyngor Sir Ddinbych, fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus.
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a Dr Eurgain Powell o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus.
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law.
10.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd yr Aelodau y dylai’r Clercod baratoi adroddiad drafft y byddant yn ei drafod ynghyd â'r wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.